Luc 24:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt.

2. A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.

3. Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.

4. A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair.

5. Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw?

6. Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea,

7. Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.

8. A hwy a gofiasant ei eiriau ef;

9. Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r un ar ddeg, ac i'r lleill oll.

10. A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.

11. A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

Luc 24