Luc 23:49-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

49. A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.

50. Ac wele, gŵr a'i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn:

51. (Hwn ni chytunasai â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw;

52. Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.

Luc 23