Luc 23:19-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)

20. Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.

21. Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.

22. Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.

23. Hwythau a fuont daerion รข llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.

Luc 23