48. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
49. A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50. A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef.
51. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.
52. A'r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?
53. Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch.
54. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ'r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.
55. Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt.
56. A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef.
57. Yntau a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.
58. Ac ychydig wedi, un arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf.
59. Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw.
60. A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog.
61. A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.
62. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63. A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro.
64. Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw'r hwn a'th drawodd di?
65. A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.