26. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27. Canys pa un fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28. A chwychwi yw'r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.
29. Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;
30. Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31. A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:
32. Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th droer, cadarnha dy frodyr.
33. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau.
34. Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi.
35. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.
36. Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau amdanaf fi.
38. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.