16. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.
17. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:
18. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19. Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.
20. Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21. Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.
22. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y bradychir ef!
23. Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24. A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27. Canys pa un fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28. A chwychwi yw'r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.
29. Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;