Luc 22:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg.

2. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.

3. A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi'r deuddeg.

4. Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r archoffeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

Luc 22