Luc 21:9-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.

10. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:

11. A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.

12. Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.

13. Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.

14. Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:

15. Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.

16. A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.

17. A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18. Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.

19. Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20. A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu.

21. Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.

22. Canys dyddiau dial yw'r rhai hyn, i gyflawni'r holl bethau a ysgrifennwyd.

Luc 21