Luc 21:25-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;

26. A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

27. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.

28. A phan ddechreuo'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu.

29. Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brennau;

30. Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos.

31. Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32. Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33. Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34. Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;

Luc 21