Luc 21:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.

14. Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:

15. Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.

16. A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.

17. A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18. Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.

Luc 21