Luc 21:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.

2. Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:

4. Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

Luc 21