5. Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6. Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd.
7. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.
8. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10. Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
11. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
12. Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.
13. Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.
15. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?