Luc 20:45-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

46. Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;

47. Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

Luc 20