Luc 20:41-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?

42. Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,

43. Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di.

44. Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45. Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

46. Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;

47. Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

Luc 20