38. Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39. Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.
40. Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?
42. Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43. Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di.
44. Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45. Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
46. Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;
47. Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.