Luc 20:14-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.

15. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?

16. Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.

17. Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?

18. Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.

19. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.

20. A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.

21. A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.

22. Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

23. Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?

24. Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.

25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.

26. Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.

27. A rhai o'r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,

28. Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi‐blant, ar gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.

29. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.

30. A'r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.

31. A'r trydydd a'i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.

Luc 20