14. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.
15. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16. Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.
17. Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
18. Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.
20. A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21. A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
22. Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?