10. Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
11. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
12. Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.
13. Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant รข'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.
15. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16. Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.