Luc 20:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Digwyddodd ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu'r bobl yn y deml, ac yn pregethu'r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyda'r henuriaid,

2. A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw'r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?

3. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:

4. Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?

5. Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?

6. Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd.

7. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.

8. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

9. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.

10. Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.

11. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.

12. Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.

13. Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.

Luc 20