2. (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)
3. A phawb a aethant i'w trethu, bob un i'w ddinas ei hun.
4. A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd),
5. I'w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6. A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni.
7. A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.
8. Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.
9. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
10. A'r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
11. Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.
12. A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb.
13. Ac yn ddisymwth yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.
15. A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.
16. A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.