Luc 19:47-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;

48. Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.

Luc 19