4. Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5. A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a'i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di.
6. Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.
7. A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus.
8. A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.
10. Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11. Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
12. Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo'i hun, ac i ddychwelyd.
13. Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf.
14. Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15. A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw'r gweision hyn ato, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata.
16. A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt.
17. Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
18. A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.
19. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas.
20. Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn:
21. Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
22. Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
23. A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog?
24. Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd â deg punt ganddo;