39. A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.
40. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai'r rhai hyn, y llefai'r cerrig yn y fan.
41. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42. Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43. Canys daw'r dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,
44. Ac a'th wnânt yn gydwastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45. Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46. Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
47. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;