31. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.
32. A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.
33. Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34. A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.
35. A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36. Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.
37. Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
38. Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39. A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.
40. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai'r rhai hyn, y llefai'r cerrig yn y fan.
41. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42. Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43. Canys daw'r dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,
44. Ac a'th wnânt yn gydwastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45. Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46. Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
47. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48. Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.