Luc 19:27-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.

28. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem.

29. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,

30. Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.

31. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.

32. A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.

33. Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?

34. A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.

35. A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.

36. Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.

37. Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;

38. Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.

39. A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.

40. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai'r rhai hyn, y llefai'r cerrig yn y fan.

41. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,

42. Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.

43. Canys daw'r dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,

44. Ac a'th wnânt yn gydwastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.

Luc 19