Luc 19:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.

2. Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog.

3. Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.

4. Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.

5. A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a'i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di.

6. Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.

7. A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus.

8. A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.

9. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.

10. Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.

Luc 19