Luc 18:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn.

7. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?

8. Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?

9. Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10. Dau ŵr a aeth i fyny i'r deml i weddïo; un yn Pharisead, a'r llall yn bublican.

11. Y Pharisead o'i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.

12. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf.

13. A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.

14. Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

15. A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.

16. Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

17. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

18. A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?

19. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.

20. Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.

Luc 18