Luc 17:34-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

35. Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

36. Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

37. A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.

Luc 17