Luc 17:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.

12. A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13. A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.

14. A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.

15. Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.

16. Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.

17. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?

18. Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd.

20. A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.

21. Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.

22. Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.

23. A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.

Luc 17