Luc 16:18-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo'r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

19. Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:

20. Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a'i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,

21. Ac yn chwenychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22. A bu, i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:

23. Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes.

24. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.

25. Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.

26. Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo'r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna, dramwy atom ni.

27. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad;

28. Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.

29. Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.

Luc 16