17. A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o'r gyfraith ballu.
18. Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo'r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
19. Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:
20. Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a'i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21. Ac yn chwenychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22. A bu, i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:
23. Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes.
24. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.
25. Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.