1. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.
2. Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr.
3. A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf.
4. Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai.
5. Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i'm harglwydd?
6. Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.
7. Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.