Luc 14:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.

33. Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.

34. Da yw'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?

35. Nid yw efe gymwys nac i'r tir, nac i'r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

Luc 14