24. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swper i.
25. A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,
26. Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
27. A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
28. Canys pwy ohonoch chwi â'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw'r draul, a oes ganddo a'i gorffenno?
29. Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a'i gwelant ei watwar ef,
30. Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen.
31. Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil?
32. Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.
33. Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.
34. Da yw'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35. Nid yw efe gymwys nac i'r tir, nac i'r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.