Luc 13:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Am hynny yr Arglwydd a'i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain i'r dwfr?

16. Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn ar y dydd Saboth?

17. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.

18. Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?

19. Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a'i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.

20. A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21. Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.

22. Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.

23. A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt,

24. Ymdrechwch am fyned i mewn trwy'r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant.

25. Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau'r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych:

Luc 13