40. A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41. A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?
42. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw'r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddĂȘl, yn gwneuthur felly.
44. Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.
45. Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: