Luc 12:31-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.

32. Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33. Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.

34. Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.

35. Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu golau:

36. A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.

37. Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddĂȘl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

Luc 12