Luc 11:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.

5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a รข ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;

6. Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:

7. Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae'r drws yn gaead, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.

8. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.

9. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.

10. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

11. Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn?

12. Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo?

Luc 11