Luc 11:36-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37. Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38. A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?

41. Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi.

42. Eithr gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43. Gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45. Ac un o'r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.

46. Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau ag un o'ch bysedd.

47. Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.

Luc 11