Luc 10:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ymysg bleiddiaid.

4. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.

5. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.

6. Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys arno: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi.

7. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.

8. A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau:

9. Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch.

10. Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,

11. Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.

Luc 10