Luc 10:25-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?

26. Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?

27. Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl; a'th gymydog fel ti dy hun.

28. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.

29. Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?

30. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a'i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw.

31. Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.

32. A'r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.

33. Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,

34. Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llety, ac a'i hamgeleddodd.

35. A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a'i talaf i ti.

36. Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i'r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?

37. Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.

38. A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a'i henw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.

39. Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.

40. Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.

Luc 10