Luc 1:45-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. A bendigedig yw'r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46. A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau'r Arglwydd,

47. A'm hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.

48. Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfydedig.

49. Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.

50. A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.

51. Efe a wnaeth gadernid รข'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.

Luc 1