24. Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef.
25. Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o'r hwn yr offrymir aberth tanllyd i'r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a'i bwytao o fysg ei bobl.
26. Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.
27. Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.
30. Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31. A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.
32. Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.
33. Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a'r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan.
34. Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o'u hebyrth hedd, ac a'u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i'w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35. Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i'r Arglwydd;
36. Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.