17. Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
18. Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.
19. A'r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a'r cig arall, pob glân a fwyty ohono.
20. A'r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
21. Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.
24. Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef.
25. Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o'r hwn yr offrymir aberth tanllyd i'r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a'i bwytao o fysg ei bobl.
26. Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.
27. Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.
30. Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31. A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.