Lefiticus 6:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i'w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog;

3. Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o'r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:

4. Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,

5. Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i'r neb a'i piau.

6. A dyged i'r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.

7. A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.

8. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

9. Gorchymyn i Aaron, ac i'w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.)

10. Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef gerllaw yr allor.

11. A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i'r tu allan i'r gwersyll, i le glân.

12. A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.

13. Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.

Lefiticus 6