Lefiticus 4:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

15. A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd.

16. A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

17. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.

18. A gosoded o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19. A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor.

20. A gwnaed i'r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a'r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.

21. A dyged y bustach allan i'r tu allan i'r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.

22. Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

23. Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl.

24. A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

Lefiticus 4