Lefiticus 3:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw.

2. A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.

Lefiticus 3