Lefiticus 27:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i'r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o'r cyfryw i'r Arglwydd, sanctaidd fydd.

10. Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.

11. Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i'r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad

12. A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.

13. Ac os efe gan brynu a'i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.

14. A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i'r Arglwydd; yna yr offeiriad a'i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio'r offeiriad ef, felly y saif.

15. Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.

16. Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i'r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.

17. Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif.

Lefiticus 27