Lefiticus 27:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr.

4. Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.

5. Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

6. A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.

7. Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

8. Ond os tlotach fydd efe na'th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia'r offeiriad ef.

9. Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i'r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o'r cyfryw i'r Arglwydd, sanctaidd fydd.

10. Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.

11. Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i'r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad

12. A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.

13. Ac os efe gan brynu a'i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.

Lefiticus 27