Lefiticus 27:23-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i'r Arglwydd, y dydd hwnnw.

24. Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i'r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.

25. A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.

26. Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i'r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.

27. Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.

28. Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i'r Arglwydd, o'r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i'r Arglwydd.

29. Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.

30. A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a'u piau: cysegredig i'r Arglwydd yw.

31. Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o'i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.

32. A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i'r Arglwydd.

33. Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd.

34. Dyma'r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.

Lefiticus 27